hirq
← All jobs

Capita Personal Independence Payment (PIP)

Welsh Speaking Inbound Enquiry Centre Advisors - Stafford

Stafford, England, GB · On-site · Full-time · Capita Personal Independence Payment (PIP)

Apply well, not just fast

Create a free account and upload your resume to get a match score, keyword gaps, a tailored resume, a cover letter and interview prep for this job.

About the role

Disgrifiad o’r Cwmni Darganfyddwch fwy gyda gyrfa yn Capita. Rydym yn helpu pobl i ddatgloi eu gwerth a’u potensial, gan roi mynediad iddynt at ystod eang iawn o gyfleoedd unigryw ac amrywiol, sy’n cynnig dilyniant gyrfa gwirioneddol. Dyma ein diben, ac mae’n diffinio ein bodolaeth. Rydym yn darparu amgylchedd cynhwysol ac amrywiol lle gall ein pobl ffynnu, datblygu a gwireddu eu gwir botensial. Pwy bynnag ydych chi a beth bynnag yw eich cefndir, rydym am i chi fod yn chi eich hun. Mae ein hymrwymiad i ddod o hyd i atebion gwell i’n cleientiaid wedi ein gwneud yn un o brif ddarparwyr ymgynghori, gwasanaethau digidol a meddalwedd yn y DU. Rydym yn falch o weithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a’r  Adran ar gyfer Cymunedau (DfC) i ddarparu’r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd (HAAS), sy’n cynnwys y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP). Mae Capita yn ymfalchïo mewn darparu’r broses PIP gyfan i’r safonau uchaf. Disgrifiad o’r Swydd Cyflog: Yn dechrau ar £26,227.50 Amgylchedd di-werthu, yn derbyn galwadau gwasanaeth sy’n dod i mewn. Byddwch yn gweithio o’ch cyfeiriad cartref gyda swyddfa benodedig yng Nghanolfan The Riverway, Stafford, y byddwch yn ei mynychu o leiaf 3 diwrnod yr wythnos. Bydd y diwrnodau swyddfa yn ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau. Swydd amser llawn yw hon – 37.5 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 y bore ac 8.00 yn y nos, gyda rhai dydd Sadwrn rhwng 9 y bore a 5 y prynhawn. Rydym yn chwilio am Gynghorwyr Canolfan Ymholiadau Mewnol i ymuno â’n tîm gwasanaeth cwsmeriaid sy’n ehangu ar sail barhaol amser llawn yn Stafford, DU. Mae’r rôl yn cynnwys darparu profiad hawlydd o ansawdd uchel dros y ffôn i hawlwyr newydd a phresennol y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) sydd yn dymuno gwneud hawliad newydd neu sydd eisoes yn derbyn Lwfans Byw Anabledd (DLA) ac ar y cam o adnewyddu eu budd-dal. Mae ein timau gwasanaeth cwsmeriaid yn gyfrifol am ddatrys materion syml a chymhleth ar gyfer ystod eang o gwsmeriaid, yn ogystal â chwblhau tasgau gweinyddol. Prif Gyfrifoldebau: - Ateb galwadau gan hawlwyr/cynrychiolwyr a delio ag ymholiadau megis trefnu apwyntiadau mewn modd proffesiynol ac effeithiol, gan sicrhau’r safon uchaf o brofiad i’r hawlydd. - Mewnbynnu data’n gywir, gyda sylw i fanylion wrth gwblhau tasgau gweinyddol. - Unrhyw ddyletswyddau eraill y gall y busnes eu hystyried yn angenrheidiol er mwyn sicrhau darpariaeth lwyddiannus y gwasanaeth asesu PIP. Cymwysterau - Sgiliau gwrando da – gallu deall problemau cwsmeriaid a rhoi esboniadau clir a chryno. - Y gallu i weithio’n dda o fewn tîm a dangos hyblygrwydd i ateb anghenion a disgwyliadau’r tîm/busnes. - Y gallu i gymryd cyfrifoldeb dros faterion, gan eu datrys lle bynnag sy’n bosibl yn ystod cam cychwynnol yr ymholiad. - Dull ffôn cwrtais a phroffesiynol, gan ddangos parch ac empathi tuag at alwyr. - Brwdfrydedd gwirioneddol dros wasanaeth cwsmeriaid. - Rheoli amser da. - Sylw uchel i fanylion a mewnbynnu data yn gywir. - Y gallu i weithio patrwm sifftiau amrywiol yn ystod oriau agor y ganolfan gyswllt. - Bod yn hyblyg i newid mewn amgylchedd sy’n newid yn barhaus. Gwybodaeth Ychwanegol Mae gennym raglen hyfforddi sy’n dechrau ar 7fed o Medi 2026, felly bydd angen i chi allu ymrwymo i hyn. Ni allwn gymeradwyo unrhyw wyliau blynyddol o fewn 6 wythnos gyntaf yr hyfforddiant. Bydd pob cynnig yn amodol ar gwblhau gwiriad safonol o ran Diogelwch Personél Sylfaenol yn foddhaol, sy’n cynnwys gwiriad troseddol sylfaenol. Buddiannau: - Cyflog cychwynnol o £26,227.50 - Bonws perfformiad chwarterol dewisol - 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal ag 8 gwyliau statudol - Cyfleoedd i symud ymlaen a datblygu gyrfa werth chweil gydag un o gwmnïau FTSE 100 (mae dros 70% o’n rheolwyr wedi datblygu o fewn y cwmni) - Pensiwn gyda chyfraniad cyfatebol gan y cwmni (hyd at 5% o’ch cyflog), sicrwydd bywyd, cynllun beicio i’r gwaith, 15 wythnos o absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu â thâl llawn, dau wythnos o dâl tadolaeth… a llawer mwy - Buddiannau gwirfoddol wedi’u cynllunio i weddu i’ch ffordd o fyw – o ostyngiadau mewn siopa a chymdeithasu i iechyd a lles, teithio a thechnoleg - Y cyfle i gymryd diwrnod wedi’i dalu allan o’r swyddfa, yn gwirfoddoli ar gyfer ein partneriaid elusennol neu achos o’ch dewis - Mynediad at ein Grwpiau Rhwydwaith Gweithwyr, sy’n cynrychioli pob agwedd ar amrywiaeth ac yn galluogi cydweithwyr i gysylltu a dysgu oddi wrth ei gilydd ar blatfform agored a chynhwysol - Rhaglen cymorth i weithwyr – cefnogaeth a chyngor 24/7 ar faterion personol neu waithRydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, sy’n golygu ein bod yn recriwtio ac yn datblygu pobl ar sail eu teilyngdod a’u hangerdd. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu proses recriwtio a gweithle cynhwysol, heb rwystrau i bawb. Os oes angen y disgrifiad swydd neu’r ffurflen gais mewn fformat arall (megis print mawr neu sain), neu os hoffech drafod unrhyw addasiadau neu gymorth pellach, cysylltwch drwy e-bost: [email protected] a byddwn yn ymateb. Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd cyfartal ac addasiadau i’r broses, ewch i wefan Gyrfaoedd Capita. Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, byddwn yn sicrhau y cynigir cyfweliad i nifer deg a chymesur o ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd hon. Mae addasiadau ar gael ar gais. Am ragor o wybodaeth neu i drafod unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch, cysylltwch â ni ar: [email protected].